
Wythnos flynyddol Twristiaeth Prydain
Fe fydd trydedd Wythnos flynyddol Twristiaeth Prydain (BTW) yn cael ei chynnal rhwng 23 a 29 Mawrth 2009. Unwaith eto bydd Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru, yn Noddi’r gyfres hon o ddigwyddiadau rhyngberthynol, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol o faint, gwerth a phwysigrwydd economi ymwelwyr Prydain, sy'n werth £86 biliwn.

Ffurfiwyd Cynghrair Twristiaeth Cymru (WTA) pan gafodd y cyfrifoldeb dros dwristiaeth ei ddatganoli o San Steffan i Gaerdydd adeg sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gynghrair wedi datblygu dros y blynyddoedd ac erbyn hyn caiff ei chydnabod yn eang fel llais diwydiant twristiaeth Cymru.
Trwy'r sefydliadau sy'n aelodau ohoni, mae'r WTA yn cynrychioli tua 7000 o fusnesau twristiaeth ym mhrif sectorau'r diwydiant i gyd. Mae cyrff Prydeinig, Cymreig a rhanbarthol yn aelodau o'r WTA.
Gwaith sylfaenol y WTA yw cyfleu barn ac anghenion y gymuned dwristiaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru, i'r Gweinidog dros Dreftadaeth (y mae twristiaeth yn rhan o'i bortffolio) ac i San Steffan (ar faterion sydd heb eu datganoli). Rydym yn sicrhau bod y diwydiant yn cael llais yn y broses benderfynu ac rydym yn cyfleu barn y Llywodraeth i'r diwydiant.
Mae'r WTA yn cydweithio â'r diwydiant, y Cynulliad a Croeso Cymru ac â VisitBritain hefyd ar faterion sy'n berthnasol i holl wledydd Prydain. Mae'n ceisio meithrin cysylltiadau rhwng sectorau a chodi'r prif faterion polisi gyda'r gwleidyddion a Croeso Cymru.